Bydd 7 Awst 10-4 yn ddiwrnod i’r brenin!

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn cynnal diwrnod arbennig i Neiniau a Theidiau ar y cyd â ni yn Dysgu gyda Mamgu. Y nod yw sicrhau bod pob mamgu a thadcu, a’u hwyrion, yn chwarae ac yn dysgu gyda’i gilydd. Bydd llu o weithgareddau a chyfleoedd i ddysguhwyl i bawb o bob oed.

Dewch i ddarganfod pa blanhigion sy’n hawdd eu tyfu i blant; dewch i glywed llysieuydd lleol yn trafod y bwydydd gwyllt y gallwch eu bwyta; sut mae creu gwesty i bryfed, a mwy. Bydd croeso i chi ychwanegu at ein harchif o feddyginiaethau llysieuol a chartref.

Bydd Valerie Wood-Gaiger MBE yn llofnodi ei llyfrau; a bydd sgyrsiau ar y Gweithgareddau Dysgu gyda Mamgu. Sut mae gwneud yn fawr o’ch amser gyda’ch wyrion a throsglwyddo sgiliau – a sut gall y genhedlaeth hŷn ddysgu oddi wrth yr ifanc!

Bydd llu o weithgareddau i chi eu mwynhau gyda’ch wyrion

Turnio prenPyrograffegCrefftau LleolGwneud Gwerthyd, Nyddu, Gweu, Crosio a GwehydduGwneud Barcud o Ddeunyddiau wedi’u HailgylchuPlygu papur i greu Siapau Origami ○ Cymryd rhan mewn tasg baentio fawr, Gwneud Llestr, Creu Mosaig

Swynwr, Castell Neidio, Gofalu am FerlodDysgu Sgiliau Syrcas

Gallwch chi a’ch Wyrion ddysgu’r pethau a’r sgiliau yma heddiw

Dysgu Sgiliau Syrcas

Dawns, Drama a Cherddoriaeth, Adrodd Storïau

Gallwch wisgo dillad Edwardaidd a chael llun teulu henffasiwn

Cwis Ewro a nwyddau am ddimSiopau Gwyddoniaeth Cymru – gofalu am ein planed ○ Mae Gwyddoniaeth yn Ddifyr

Cerdded Nordig

Masnach Rydd

Help the Aged, Age Concern, Prosiect 50+ Cyngor Sir Caerfyrddin

Cofiwch fod modd gwneud yr holl weithgareddau hyn yn eich ardal leol neu gartref

Bydd y diwrnod yng ngofal yr Ardd Fotaneg Genedlaethol a Dysgu gyda Mamgu. Cwmni nid er elw, rhif cofrestru 05913133. 

Noddwyr: Daphne Fowler (a ddaeth yn enwog ar Eggheads) a’r Cyng. Meryl Gravell (Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin).

Cefnogir Dysgu gyda Mamgu gan