
Bydd 7 Awst,10:00-4:00 yn ddiwrnod i’r brenin!
Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Dysgu gyda Mamgu yn gobeithio y byddwch chi’n dod i ymuno
yn hwyl y Diwrnod Neiniau a Theidiau ar 7 Awst
– diwrnod o ddysgu i’r gwahanol genedlaethau.
Y nod yw sicrhau bod pob
mamgu a thadcu, a’u hwyrion, yn
chwarae ac yn dysgu gyda’i gilydd.
Bydd llu o weithgareddau a chyfleoedd i ddysgu
– hwyl i bawb o bob oed. Rhowch wybod am y digwyddiad hwn i bob mamgu a thadcu
rydych chi’n eu nabod – ac mae croeso i famau a thadau
hefyd!
Nod Dysgu gyda Mamgu (cwmni
nid er elw
rhif cofrestru 05913133) yw hybu
parch rhwng y cenedlaethau;
helpu i feithrin
cariad at ddysgu; helpu i greu
atgofion fydd yn para a chael
HWYL!
Gallwch
ddysgu rhagor am blanhigion yn y Gerddi Botaneg Cenedlaethol - pa blanhigion sy’n hawdd eu
tyfu i blant;
bydd llysieuydd lleol yn trafod
y bwydydd gwyllt y gallwch eu bwyta;
gallwch ddysgu sut mae creu gwesty i
bryfed, a llawer mwy. Mae’r Gerddi
Botaneg Cenedlaethol hefyd yn gofyn
am eich help i ychwanegu at archif o feddyginiaethau llysieuol a chartref.
Bydd Valerie Wood-Gaiger MBE (un o sylfaenwyr Dysgu gyda Mamgu) yn llofnodi ei llyfrau, a bydd hi a menywod eraill sy’n neiniau yn trafod sut mae gwneud y defnydd gorau o’ch amser gydag wyrion – i drosglwyddo sgiliau – a hefyd sut gall y genhedlaeth hŷn ddysgu oddi wrth yr ifanc!
Bydd llu o weithgareddau i’r teulu eu mwynhau
a dysgu gyda’i gilydd.
Turnio pren ○ Pyrograffeg ○ Dysgu sut mae gwneud
Gwerthyd, Nyddu, Gweu, Crosio a Gwehyddu ○ Gwneud Barcud am ddim o Ddeunyddiau wedi’u Hailgylchu ○ Plygu papur i
greu Siapau Origami ○
Cymryd rhan mewn Tasg Baentio
Fawr, Gwneud Llestr, Creu Mosaig ○ Dysgu Sgiliau Syrcas
○ Dysgu sut mae gofalu am Ferlod.
○ Siopau Gwyddoniaeth Cymru – dangos
bod gwyddoniaeth yn ddifyr a sut
mae helpu
i ofalu am ein planed ○
○ Cymryd rhan mewn Cwis
Ewro ac ennill nwyddau am ddim ○ Dysgu rhagor am Fasnach Deg a phrynu crefftau lleol ○
Bydd Swynwr yn gwneud triciau
hud a bydd
Jyglwr yn dangos ei grefft.
Gallwch ymuno â’r band Samba a dawnsio o amgylch yr ardd.
Bydd dawnsio gwerin ar gael. Bydd pobl ifanc, neiniau
a theidiau yn canu caneuon ac yn difyrru â dramâu
bach hwyliog.
Gallwch chi chwarae sgitls a boule, neidio ar gastell
neu roi cynnig
ar Gerdded Nordig. Beth am wisgo dillad Edwardaidd i gael llun henffasiwn o’ch teulu?
Bydd Cyhoeddwr Tref Llanymddyfri’n rhoi gwybod beth
sy’n digwydd nesaf a, heblaw am y pethau byddwch chi’n eu prynu,
bydd yr holl weithgareddau wedi eu cynnwys yn
y pris mynediad.
Mae llawer o sefydliadau wedi dod at ei
gilydd i ddangos sut gall yr hen a’r ifanc fwynhau
gyda’i gilydd. Rydym yn ddiolchgar
iddyn nhw ac i Help the Aged a Phrosiect 50+ Cyngor Sir Caerfyrddin am gefnogi’r prosiect hwn.
Dysgu gyda
Mamgu (cwmni nid er elw rhif
cofrestru 05913133). Noddwyr:
Daphne Fowler (a ddaeth yn enwog ar Eggheads) Y Cyng Meryl Gravell (Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin)).